George Galloway ar gefn ei fws
Mae George Galloway wedi sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn isetholiad Bradford West, gan ennill mwyafrif o dros 10,000 o bleidleisiau.

Dywedodd ymgeisydd Respect bod y canlyniad yn brawf bod pleidleiswyr wedi gwrthod y prif bleidiau gwleidyddol yn llwyr.

“Dyma’r canlyniad mwyaf annisgwyl yn hanes isetholiadau Prydain,” meddai ar y llwyfan, ar ôl ennill dros hanner y pleidleisiau.

Mae’r canlyniad yn ergyd difrifol i’r Blaid Lafur oedd yn ffefrynnau mawr  i gadw’r sedd yn ystod wythnos anodd iawn i Lywodraeth San Steffan.

Dyma’r tro cyntaf i’r wrthblaid golli sedd mewn isetholiad ers i’r Democratiaid Rhyddfrydol gipio Romsey o afael y Ceidwadwyr yn 2000.

Mae’r canlyniad, mewn sedd y mae’r Blaid Lafur wedi ei ddal ers 1974, yn debygol o godi amheuon newydd am arweinyddiaeth Ed Miliband.

Cynhaliwyd yr isetholiad ar ôl ymddiswyddiad Marsha Singh oherwydd ei hiechyd.

“Mae Llafur Newydd wedi eu gorchfygu,” meddai George Galloway wrth Sky News. “Roedd hi hefyd yn noson wael iawn i bleidiau’r Llywodraeth.

“Roedd heno’n wers iddyn nhw ac rydw i’n gobeithio eu bod nhw’n gwrando.

“Mae pobol Bradford wedi siarad ar ran pobol ym mhob un o ddinasoedd y Deyrnas Unedig.”