Y Frenhines
Mae’r Llywodraeth yn ystyried cael gwared ar ŵyl banc Calan Mai a sefydlu gwyliau newydd yn yr hydref.

Mae’n debyg eu bod nhw’n ystyried gŵyl y banc ym mis Hydref o’r enw ‘Dydd Prydain’ neu ‘Dydd Trafalgar’.

Mae’r diwydiant twristiaeth wedi bod yn galw am daenu gwyliau banc yn gyfartal ar draws y flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae 1 Mai yn gallu syrthio’n agos iawn at wyliau’r Pasg.

Ond mae undebau wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o fynd ati’n fwriadol i dargedu diwrnod rhyngwladol y gweithwyr ar 1 Mai.

Dywedodd y Llywodraeth nad oedd yna unrhyw naws gwleidyddol i’r penderfyniad, gan bwysleisio mai ymgynghori ar y syniad oedden nhw yn unig.

“Mae busnesau twristiaeth ym Mhrydain yn gwneud gwaith da wrth ddenu cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn, ac fe ddylai’r Llywodraeth wneud ei ran er mwyn eu helpu nhw,” meddai’r Gweinidog Twristiaeth, John Penrose.

“Fe fyddai gŵyl y banc yn yr hydref, ryw fath o ‘Ddydd Prydain’, yn hwb nid yn unig i’r diwydiant ond i’r wlad yma, wrth i ni ganolbwyntio ar beth sy’n ein gwneud ni’n wlad o safon.

“Cyn i ni fynd a hyn ymhellach mae’n bwysig bod gan bawb gyfle i’w ystyried yn llawn.

“Os ydi pobol Prydain yn penderfynu eu bod nhw eisiau cadw gwyliau Calan Mai, dyna ni, ond fe ddylen ni ystyried yr holl opsiynau cyn i’r wlad ddod i benderfyniad ar y cyd.”

Ni fyddai unrhyw newid yn digwydd cyn 2013. Fe fydd gwyliau banc ychwanegol yn cael eu cynnal eleni a’r flwyddyn nesaf ar ddyddiau’r Briodas Frenhinol a’r dathliad 60 mlynedd ers coroni’r Frenhines.

Ymateb

Dywedodd Brendan Barber, ysgrifennydd cyffredinol undeb y TUC, y dylai’r Llywodraeth gadw gŵyl y banc Calan Mai a chyflwyno diwrnod arall o wyliau yn yr hydref.

“Prydain sydd â’r lleiaf o wyliau banc yn Ewrop,” meddai. “Mae yna ambell i Dori eisiau cael gwared ar Galan Mai oherwydd y cysylltiad gyda’r undebau llafur.

“Mewn gwirionedd mae Calan Mai yn ddathliad Prydeinig traddodiadol sy’n mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif.”