Stuart Lancaster
Mae Stuart Lancaster wedi ei benodi yn brif hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, cyhoeddwyd heddiw.

Mae disgwyl i Undeb Rygbi Lloegr gadarnhau apwyntiad Stuart Lancaster mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn ‘ma.

Cafodd Stuart Lancaster ei benodi’n brif hyfforddwr dros dro Lloegr ar ôl ymgyrch drychinebus y Saeson yng Nghwpan y Byd.

Ond roedd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un llwyddiannus eleni gyda buddugoliaethau dros Ffrainc ac Iwerddon.

Yr unig gêm i Loegr ei golli oedd hwnnw yn erbyn Cymru.

Yr unig ddyn arall yn y ras am y swydd oedd Nick Mallett, cyn-hyfforddwr De Affrica a’r Eidal.

Nid oes newydd pellach ynghylch y dyn a fu’n is-hyfforddwr i Lancaster, Andy Farrell, sydd dan gytundeb i hyfforddi clwb y Saracens.