Fabrice Muamba
Mae angen i’r awdurdodau pêl-droed wneud mwy er mwyn mynd i’r afael â chlybiau sy’n methu ag atal eu cefnogwyr rhag gwneud sylwadau hiliol.

Dywedodd prif erlynydd chwaraeon Gwasanaeth Erlyn y Goron, Nick Hawkins, na ddylid ystyried sylwadau o’r fath yn “siarad wast” nac awgrymu bod y chwaraewyr yn cael eu talu digon i orfod goddef yn dawel.

Daw ei sylwadau ddiwrnod yn unig wedi i Liam Stacey, 21 oed, o Bontypridd gael ei ddedfrydu i 56 diwrnod yn y carchar am sylwadau hiliol ar Twitter.

Roedd wedi trydar wrth i Fabrice Muamba, chwaraewr 23 oed clwb Bolton, ddioddef trawiad ar y galon wth herio Tottenham yn rownd yr wyth olaf Cwpan yr FA.

Dywedodd Nick Hawkins fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â defnydd rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn gwneud sylwadau hiliol.

“Ni ddylid defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwneud sylwadau a fyddai yn droseddau casineb pe baen nhw’n cael eu dwyn i wyneb rhywun,” meddai.

Dywedodd fod unrhyw beth a fyddai yn cael ei ystyried yn drosedd oddi ar y cae yn drosedd ar y cae hefyd.

Bydd clybiau sy’n methu â gweithredu yn cael eu gorfodi i chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caeedig neu yn colli pwyntiau, a bydd cefnogwyr yn cael eu gwahardd am oes, meddai.