Francis Maude
Mae Undeb y Frigâd Dân wedi rhoi cerydd i un o Weinidogion Llywodraeth San Steffan am awgrymu y dylai modurwyr storio caniau o betrol.

Dywedodd Francis Maude, Aelod Seneddol Horsham, heddiw y dylai modurwyr gadw caniau o betrol yn y garej i’w cynnal nhw os bydd streic gan yrwyr tanceri.

Dywedodd undeb yr FBU y byddai hyn yn cynyddu’r perygl o gynnau tân neu ffrwydrad ac y dylai’r Llywodraeth dynnu’r cyngor yn ôl.

“Nid yw hyn yn gyngor call,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU, Matt Wrack.

“Mae yna risg wrth storio tanwydd, hyd yn oed os yw pobl yn gwneud hynny mewn modd synhwyrol. A bydd y rheiny heb garej yn cael eu temtio i gadw petrol yn y cartref, a petai yna dân yn y tŷ neu mewn tŷ cyfagos byddai’n sefyllfa drychinebus”.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi annog pobl i gadw tanciau eu ceir yn llawn rhag ofn i’r streic gael effaith ar gyflenwad yn eu hardal nhw, ond mae cymdeithas foduro’r AA wedi annog pobl i beidio â mynd i banig.

Prynhawn yma mi wnaeth Llywydd yr AA, Edmund King, drydar “Mae digon o danwydd, does dim streic, peidiwch â chynhyrfu Mr Mannering, a pheidiwch â rhuthro i lenwi caniau. Mae’n anghyfreithlon i gario mwy na dau gan betrol 5 litr ac mae’n beryglus i’w storio.”