Roedd economi Prydain wedi crebachu yn fwy na’r disgwyl yn ystod chwarter olaf 2011, yn ôl ffigurau gafodd eu rhyddhau bore ‘ma.

Roedd y Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) – sy’n fodd o fesur yr economi – wedi gostwng 0.3% yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n is na’r amcangyfrif gwreiddiol o ostyngiad o 0.2%.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol bu dirywiad yn y sector gwasanaethau a gostyngiad yng ngwariant pobl o ddydd i ddydd.

Mae’r ffigurau’n  awgrymu fod economi Prydain mewn sefyllfa waeth nag y tybiwyd yn nechrau 2012, ond mae economegwyr yn rhagweld bydd Prydain yn osgoi dirwasgiad – sef dau chwarter o grebachu cyson – yn ystod chwarter cyntaf 2012.

Mae disgwyl i’r economi dyfu ychydig yn sgil ystadegau cryfach gan gwmnïau yn ddiweddar, ond bydd y twf yn araf medd economegwyr gan fod diwethdra ar gynnydd a chost byw yn codi.

Wrth ymateb i’r ystadegau newydd, dywedodd Ed Balls, canghellor yr wrthblaid: “Mae’n bryderus fod yr economi wedi crebachu’n fwy na’r disgwyl. Mae’n glir fod Cyllideb yr wythnos diwethaf wedi gwneud y dewis anghywir wrth ofyn i filiwnyddion i dalu llai a gofyn i filiynau o bobl gyffredin i dalu mwy.”

Yn ôl yr Aelod Seneddol Cymreig, Jonathan Edwards, mae’r ffigyrau’r dystiolaeth fod y sefyllfa’n gwaethygu bob dydd.

“Mae pob ffigwr allbwn economaidd yn waeth na’r un diwethaf,” meddai.

“Gwnaeth y Con-Dems a Llafur gamgymeriad mawr cyn etholiad y Deyrnas Unedig yn 2010, pan ddechreuwyd y ras i’r gwaelod, i weld pwy allai wneud toriadau mwyaf.

“R’yn ni nawr mewn sefyllfa ble mae’r economi’n segur ac mae nifer o’r toriadau hynny yn dal i ddod,” meddai Jonathan Edwards.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers ddechrau’r argyfwng economaidd mai buddsoddi yn ein isadeiledd, ein rheilffyrdd, ysgolion ac ysbytai yw’r ffordd orau i gadw ein heconomi’n symud a chadw pobl mewn gwaith.

“Yn anffodus, nid yw pleidiau Llundain wedi gwrando arnom – ac mae hynny, unwaith eto, yn dangos pam fod Cymru angen ei phwerau economaidd ei hun.”

Ddechrau mis Mawrth cafodd ffigurau GDP eu cyhoeddi oedd yn awgrymu bod rhannau helaeth o Gymru yn dlotach na rhannau o Romania.