Terfysg ar strydoedd Llundain y llynedd
Fe ddylai ysgolion sy’n methu â dysgu disgyblion i ddarllen ac ysgrifennu gael eu dirwyo, yn ôl panel annibynnol sy’n ymchwilio i’r hyn ysgogodd y terfysgoedd y llynedd.

Yn ôl y panel,  mae  nifer o’r rhai sy’n gadael yr ysgol â sgiliau llythrennedd plentyn 11 oed, ac yn gadael heb unrhyw nod mewn cymdeithas.

Fe fyddai cyflwyno dirwyon, a fyddai’n cael eu defnyddio i helpu plant i gyrraedd y safon angenrheidiol, yn helpu i sicrhau y byddai’r risg o derfysgoedd, fel y rhai a welwyd fis Awst y llynedd,  yn “gostwng yn sylweddol.”