Paul Maynard
Mae Aelod Seneddol sy’n dioddef o barlys yr ymennydd yn dweud bod ASau eraill wedi gwneud hwyl ar ei ben wrth iddo geisio siarad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Paul Maynard ei ethol yn AS Ceidwadol dros Blackpool North a Cleveleys fis Mai diwethaf.

Cyhuddodd ASau’r Blaid Lafur o “wneud wynebau gwirion” i’w ddynwared wrth iddo siarad.

“Roedden nhw’n torri ar draws o hyd, yn ceisio tynnu fy sylw, sydd yn dacteg arferol yn y senedd,” meddai wrth bapur newydd y Times.

“Ond roedd rhaid yn gwneud wynebau gwirion – ystumiau dros ben llestri, ac wynebau dros ben llestri.

“Dim ond nhw sy’n gwybod i sicrwydd a oedden nhw’n gwneud hwyl ar ben fy anabledd. Ond roeddwn i’n teimlo felly ar y pryd.”

Cadarnhaodd ASau eraill bod hynny wedi digwydd, yn ystod dadl ynglŷn â diddymu cronfa ymddiriedolaeth plant.

Ar ei wefan bersonol mae Paul Maynard yn dweud ei fod yn dioddef o barlys yr ymennydd “ysgafn iawn”.

“Mae yn effeithio ar sut y mae pobol yn fy nhrin i, ac fe fydd yna bobol sy’n meddwl na fyddaf i’n llwyddo o’i herwydd – ond dydw i erioed wedi gadael i hynny fy nal i yn ôl,” meddai.

Ymateb

Dywedodd yr AS Llafur Tom Harris wrth Radio 5 Live na fyddai ASau yn gwneud hwyl ar ben anabledd aelod arall.

“Does yna ddim un aelod yn Nhŷ’r Cyffredin nag unrhyw blaid arall a fyddai yn ymosod ar rywun am eu bod nhw’n anabl,” meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi clywed bod ambell un wedi gwawdio Paul Maynard nes iddyn nhw sylweddoli ei fod yn anabl.

“Doedd neb yn gwybod bod Paul yn anabl. Os oedden nhw’n gwybod ac wedi gwneud hwyl am ei ben mae hynny’n ofnadwy ac yn anfaddeuol.”