Mae gyrrwyr loriau tanwydd wedi pleidleisio heddiw o blaid mynd ar streic ynglŷn â thelerau ac amodau a safonau diogelwch.

Fe fu 2,000 o aelodau undeb Unite o saith cwmni yn pleidleisio heddiw dros weithredu’n  ddiwydianol am y tro cyntaf ers mwy na degawd.

Mae gyrrwyr Unite yn cludo tanwydd i 90% o orsafoedd petrol y DU a dywed yr undeb y gallai streic gau hyd at 7,900 ohonyn nhw.

Dywed y Llywodraeth bod milwyr yn cael eu hyfforddi i yrru’r tanceri os ydy’r streiciau’n cael eu cynnal.