Mae  bron i 6,000 o staff Game yn wynebu dyfodol ansicr ar ôl i’r grŵp gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae PwC wedi ei benodi fel gweinyddwyr Game sydd â 609 o siopau yn y DU.

Mae Game, sy’n cyflogi 385 o staff yn ei bencadlys yn Baskingstoke, a 5,100 yn ei siopau, wedi gweld ei elw’n gostwng yn sylweddol yn ddiweddar gyda rhai cyflenwyr yn gwrthod cyflenwi nwyddau newydd i siopau’r cwmni.

Mae PwC yn obeithiol y gallen nhw werthu Game.