Simon Cowell
Fe fydd dynes yn mynd o flaen ynadon yn Llundain bore ma ar gyhuddiad o dorri mewn i dŷ Simon Cowell.
Roedd Simon Cowell, y dyn tu ôl i gyfresi Britain’s Got Talent a The X Factor, yn y tŷ nos Sadwrn am 10.30pm pan glywodd sŵn yn un o’r ystfaelloedd gwely.
Dywedodd ei lefarydd Max Clifford wrth The Sun bod Cowell wedi rhuthro i fyny’r grisiau a chanfod gwraig yn yr ystafell ymolchi gyda bricsen yn ei llaw.
“Roedd yn brofiad brawychus iawn i Simon,” meddai Max Cliffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard bod dynes 29 oed wedi cael ei chyhuddo o dorri mewn i gartref Simon Cowell, 52 oed, yng ngorllewin Llundain.
Cafodd Leanne Zaloumis, o Heol Brownhill, Catford, de ddwyrain Llundain ei chadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon gorllewin Llundain heddiw.