David Cameron
Mae David Cameron dan bwysau i ddatgelu manylion am gyfarfodydd gyda’r rhai sydd wedi cyfrannu arian at y Blaid Geidwadol.

Mae’n dilyn ymddiswyddiad cyd-drysorydd y Ceidwadwyr, Peter Cruddas, oedd wedi honni y gallai cyfraniad ariannol sylweddol i goffrau’r blaid sicrhau cinio a chysylltiad uniongyrchol gyda David Cameron.

Dywedodd ffynhonnell yn Downing Street bod “llond llaw” o bobl sydd wedi cyfrannu arian at y blaid wedi cael cinio gyda’r Prif Weinidog a’i wraig Samantha yn eu fflat yn Rhif 11.

Yn eu plith roedd Michael Spencer, cyn trysorydd y Ceidwadwyr, ond nid Peter Cruddas. Yn ôl y ffynhonnell, roedd y rhai gafodd wahoddiad yn ffrindiau â’r Prif Weinidog oedd wedi digwydd gwneud cyfraniad i’r blaid.

‘Ymchwiliad annibynnol’

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi mynnu y dylai manylion llawn gael eu datgelu ynglŷn â phwy sydd wedi gwneud cyfraniad i’r blaid, ac sydd wedi cael gwahoddiad i Downing Street neu Chequers, ers mis Mai 2010, ac a ydyn nhw wedi cael dylanwad ar bolisi.

Mae wedi galw am ymchwiliad annibynnol llawn i honiadau Peter Cruddas.

Mewn cyfweliad â’r Post Cynta ar BBC Radio Cymru bore ma, dywedodd AS Llafur Gorllewin Casnewydd Paul Flynn y dylid mynd gam ymhellach ac mae wedi galw am ymchwiliad troseddol i’r mater.

‘Hollol annerbyniol’

Roedd Peter Cruddas, sydd hefyd wedi cyfrannu arian i goffrau’r blaid,  wedi cael ei ffilmio gan ohebwyr y Sunday Times yn cynnig mynediad at David Cameron a gweinidogion blaenllaw eraill am gyfraniadau i’r blaid o £250,000 y flwyddyn.

Fe honnodd y byddai’r rhai hynny sy’n cyfrannu arian mawr at y blaid yn gallu mynegi eu pryderon i “bwyllgor polisi” Downing Street.

Mae’r heddlu wedi cael eu hysbysu ynglŷn â’r mater.

Dywedodd y Prif Weinidog bod yr hyn ddigwyddodd yn “hollol annerbyniol” ac mae wedi addo ymchwiliad mewnol er mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto.