Mae gyrrwr, anafwyd yn ddifrifol pan aeth ei lori yn erbyn bws ar drafforth yr M5 ben bore ddoe, wedi marw yn yr ysbyty yn Birmingham.

Dywedodd yr heddlu mai gŵr 65 oed o Wlad yr Hâf oedd o ond tydio ddim wedi cael ei enwi hyd yma.

Lladdwyd un o’r teithwyr ar y bws, sef gŵr 35 oed o Smethwick, yn y fan a’r lle ac mae gŵr arall anafwyd yn y ddamwain yn parhau yn ddifrifol wael.

Cafodd gyrrwr y bws ei arestio a’i ryddhau ar fechniaeth yn dilyn y ddamwain ddigwyddodd mewn niwl trwchus.

Dywedodd ditectifs fod y gyrrwr, sy’n dod o Birmingham, wedi cael ei holi ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Roedd y bws wedi torri i law ar y draffordd yn agos i lecyn lle roedd yna waith ar y ffordd rhwng cyffordd 3 a 4 ger gwasanaethau Frankley.

Cafodd 34 o deithwyr eu hanafu yn y ddamwain. Roedd y bws yn cario casglwyr ffrwythau o Birmingham i Evesham a doedd yna ddim gwregysau diogelwch  ar ei bwrdd.

Dywedodd Heddlu’r Traffyrdd bod aelod o’r cyhoedd wedi ffonio i ddweud bod y bws wedi torri i lawr rhyw 12 munud cyn i’r ddamwain ddigwyddad.