Y Prif Weinidog David Cameron
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi beirniadu cyn drysorydd y Ceidwadwyr am ymffrostio y gallai cyfraniad ariannol sylweddol i goffrau’r blaid sicrhau cinio a chysylltiad uniongyrchol efo fo a staff 10 Downing Street.

Fe wnaeth Peter Cruddas, cyd-drysorydd y Blaid Geidwadol ymddiswyddo’r bore yma ar ôl i ohebwyr y Sunday Times ei ffilmio yn cynnig mynediad at David Cameron am gyfraniadau i’r blaid o £250,000 y flwyddyn.

Mae’r Prif Weinidog wedi addo ymchwiliad gan y blaid i’r hyn ddigwyddodd.

Mae gwefan y Ceidwadwyr beth bynnag yn dangos bod sawl lefel o gyfrannu at y blaid ar hyn o bryd a phob un yn sicrhau buddion penodol sy’n dibynnu ar y swm gaiff ei gyfrannu.

Mae cynllun “Grŵp yr Arweinydd” yn galw am gyfraniad o £50,000 yn flynyddol. Yn ôl y disgrifiad o’r cynllun ar y wefan, “Grŵp yr Arweinydd yw prif grŵp cefnogwyr y Ceidwadwyr. Caiff aelodau wahoddiadau i ymuno efo David Cameron ac aelodau blaenllaw eraill o’r Blaid Geidwadol i giniawa gyda’r nos, ciniawa wedi sesiwn cwestiynnau’r Prif Weinidog, derbyniadau, digwyddiadau yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadol a lawnsiad ymgyrchoedd pwysig.”

Roedd Peter Cruddas wedi dweud mewn cyfarfod ffug efo cudd-ohebwyr y Sunday Times y buasai “pethau’n agor i chi’ a “buasai hyn yn anhygoel ar gyfer eich busnes” petae nhw’n cyfrannu swm o £250,000 i goffrau’r blaid.

Roedd cyfrannu chwarter miliwn o bunnau meddai, yn golygu cyfle i lobïo Mr Cameron yn uniongyrchol gan fwydo eu sylwadau yn syth i Downing Street. Doedd dim diben meddai “crafu o gwmpas efo cyfraniadau o £10,000”.

Yn ôl y stori yn y Sunday Times, roedd Mr Cruddas o dan yr argraff bod y gohebwyr, oedd yn honni eu bod yn gweinyddu cronfeydd cyfoethog, yn bwriadu cyfrannu o gyfrifon yn Lichtenstein yn groes i ddeddfau etholiadol. Yna, medd y stori, fe aeth y gohebwyr a Mr Cruddas ymlaen i drafod sut i osgoi hyn gan greu is-gwmni yn y DU neu ddefnyddio gweithwyr yn y DU i drefnu’r cyfraniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr, “Ni chafodd unrhyw gyfraniad ei dderbyn na’i ystyried yn ffurfiol gan y Blaid Geidwadol. Mae pob cyfraniad i’r Blaid Geidwadol yn cydymffurfio efo deddfau etholiadol. Yn wahanol i’r BLaid Lafur, ble mae cyfraniadau gan yr undebau yn cael eu cyfnewid am bolisiau, nid yw cyfraniadau i’r Blaid Geidwadol yn prynu polisiau gan y blaid na’r llywodraeth.

Ymddiheuriad

Mae Mr Cruddas ei hun wedi ymddiswyddo y bore yma. Dywedodd “Rwyf yn difaru fy mod wedi creu unrhwy argraff o amhriodoldeb oherwydd fy ymffrost yn ystod y sgwrs. Yn amlwg nid oes unrhyw bosibilrwydd o gyfrannwyr yn gallu dylanwadau ar bolisi neu gael mynediad anaddas at wleidyddion.”

“Yn bendodol, nid oeddwn ar unrhyw gyfrif yn gallu cynnig neu yn ystyried cynnig mynediad o ganlyniad i gyfraniad. Yn ogystal, nid wyf erioed i mi wybod wedi cyfarfod unrhyw un o uned bolisi Rhif 10. Ond er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo yn syth.”

Ymateb y pleidiau eraill

Mae sawl aelod o’r Blaid Lafur wedi mynegi syndod am gynnwys y ffilm.

Dywedodd Denis McShane AS bod y sefyllfa yn ‘anghredadwy’ gan ychwanegu mai dyma’r math o beth “yr ydym yn chwerthin amdano” yng nghyd-destun gweldyddiaeth yn yr India neu yr Eidal.

Dywedodd  David Milliband y cyn Ysgrifennydd Tramor bod yr hyn sydd wedi digwydd yn chwalu’r llinellau ddylai fodoli rhwng unrhyw blaid a’r llywodraeth.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol sef partneriaid y Ceidwadwyr yn y glymbliad hefyd wedi mynegi pryderon am yr hyn sydd wedi digwydd.

Dywedodd Danny Alexander AS sy’n weinidog yn y trysorlys: “Mae hyn yn gwbl warthus a does dim lle o gwbl i ymddygiad fel mewn mewn gwleidyddiaeth ym Mhrydain.”

Galwodd hefyd am “ddiwygio” y drefn ariannu.

Yn dilyn ymchwiliad i’r drefn o ariannu pleidiau gwleidyddol fe wnaeth y Comisiwn Safonnau Mewn Bywyd Cyhoeddus ddweud llynedd y dylai’r pleidiau gael £23m yn ychwnaegol o arian trethdalwyr er mwyn gostwng lefel unrhyw ddibynniaeth ar gyfraniadau enfawr.

Fe wnaeth  y Comisiwn hefyd argymell cap o £10,000 ar gyfraniadau gan unigolion.