Bydd chwech o ddynion o ardal Rhydychen yn ymddangos gerbron Llys y Goron Aylesbury dydd Gwener nesaf ar gyhuddiadau yn ymwneud â gwerthu genethod ifanc bregus  am ryw.

Cafodd y cyfan eu cadw yn y ddlafan gan ynadon High Wycombe ar ôl ymddangos ger eu bron ddoe.

Mae Anjum Dogar 30, ei frawd Aktar Dogar, 31, Kamar Jamil 26  Zeshan Ahmed 26, a’r brodyr Mohammed Karrar 37 a Bassan Karrar wedi eu cyhuddo o gyfres o droseddau, gan gynnwys trais, cynllwynio i dreisio plentyn a threfnu plant i’w puteinio.

Roedd y chwech ymhlith 13 o ddynion gafodd eu harestio yn Rhydychen dydd Iau diwethaf wrth i’r heddlu ymchwilio i honniadau bod 24 o enethod dan 16 oed wedi cael eu denu gan griw o ddynion er mwyn eu troi’n buteiniaid.

Mae’r 7 arall wedi eu rhyddhau ar fechniaeth tan mis Ebrill.