Bydd milwyr yn cael eu hyfforddi i ddosbarthu tanwydd i orsafoedd petrol led led Prydain yr wythnos nesaf wrth i’r llywodraeth baratoi am y posibilrwydd o streic gan yrrwyr tanceri petrol.
Mae undeb Unite yn gofyn i’w 2,000 o aelodau mewn saith cwmni bleidleisio ar fater gweithredu’n ddiwydiannol oherwydd ”ymosodiadau di-derfyn” ar amodau gwaith y gyrrwyr.
Bydd y pleidleisio yn gorffen yfory (Llun).
Dywedodd y gweinidog cabinet Francis Maude bod y llywodraeth wedi dysgu llawer o’r gweithredu yn 2000 achosodd gryn drafferth i yrrwyr a chwmniau.
“Buasai gweithredu diwydiannol dros ardal eang yn effeithio ar y cyflenwad tanwydd i archfarchnadoedd, modurdai a meusydd awyr,” meddai “ a buasai hyn yn achosi anrhefn llwyr ymhob cwr o’r wlad.”
Os bydd aelodau Unite yn pleidleisio o blaid gweithredu yna gallai streic ddigwydd ymhen y mis gan amharu ar benwythnos y Pasg.
Gwelliant SNP i’r Gyllideb
Yn y cyfamser, mae’r SNP yn bwriadu cynnig gwelliant i gyllideb y Canghellor gan alw am rewi unrhyw gynnydd yn nhreth tanwydd yn y dyfodol.
Mae’r dreth i fod i godi dros 3% ddechrau Awst eleni.
Dywed yr SNP y dylai lefel y dreth gael ei gadw i lawr pan mae pris tanwydd yn codi ac y bydd refeniw ychwanegol o’r cynydd yn TAW ar danwydd yn gwneud yn iawn am hyn.
Dywedodd y Trysorlys ei bod eisoes wedi gweithredu er mwyn helpu gyda chostau moduro.
Mae Cymdeithas y Cludwyr ar y Ffyrdd yn cefnogi gwelliant yr SNP.