Harbwr Portland
Mae dwy long ar eu ffordd i Portland ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a’i gilydd yn y môr 6 milltir i’r de o Dungeness.

Digwyddodd y ddamwain am 10.15 y bore yma ynghanol niwl trwchus yn ôl Gwylwyr y Glannau yn Dover.

Chafodd neb ei anafu wrth i’r Gas Arctic, tancer nwy o Malta oedd ar ei ffordd o Tees i Portland, daro yn erbyn y Spring Bok, llong nwyddau o’r Iseldiroedd oedd ar ei ffordd o Amsterdam i Aruba yn y Caribî.

Mae gan y Gas Arctic griw o 14 a’r Spring Bok griw o 22.

Yn ôl y gwylwyr cafodd bad achub Dungeness ei hanfon allan ac fe gafwyd cymorth gan long yr HMS Tyne oedd gerllaw.

Mae’r ddwy long wedi eu difrodi uwchlaw’r llinell ddwr ac fe fyddan nhw’n cael eu harchwilio’n drwyadl ar ôl cyrraedd Portland