Damwain ar yr M5
Mae gyrrwr y bws fu mewn gwrthdrawiad efo lori ar yr M5 y bore yma wedi cael ei arestio gan yr heddlu. Cafodd y gwr 49 oed ei ryddhau ar fechniaeth.

Lladdwyd gwr 35 oed ac fe anafwyd 39 o bobl wedi’r gwrthdrawiad rhwng bws a lori ar draffordd yr M5 yng nghanolbarth Lloegr toc wedi 6 o’r gloch y bore.

Roedd y gwr laddwyd yn dod o Birmingham ac yn teithio ar y bws. Mae teithiwr arall a gyrrwr y lori yn ddifrifol wael ac yn derbyn triniaeth gyda 27 arall o’r rhai anafwyd mewn ysbytai yn Brimingham a Redditch.

Digwyddodd y ddamwain rhwng allanfa 3 a 4 ar y lôn tua’r de nid nepell o wasanaethau Frankley.

Roedd y draffordd ar gau yn gyfangwbl am rai oriau wrth i un person gael ei dorri’n rhydd o’r lori gan y gwasanaeth tân ac achub, a dau eu torri’n rhydd o’r bws.

Dywedodd un teithiwr bod y bws ar ei ffordd o Birmingham i Evesham pan dorrodd i lawr ger man lle roedd yna waith ar y draffordd. Roedd yn niwlog iawn yn yr ardal yma ar y pryd a dywedodd un llygad dyst bod y lori wedi taro yn erbyn y tu ôl y bws.

Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn cynghori gyrrwyr i ddefnyddio’r M6 a’r M42 er mwyn osgoi’r ddamwain gan na fydd y llwybrau tua’r de ar agor tan ddiwedd y dydd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr y gallasai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth oherwydd y niwl, ond yn ffodus roedd y draffordd yn gymharol dawel ben bore Sadwrn.