Cafodd tri o ddynion o Rydychen eu cadw yn y ddalfa gan ynadon High Wycombe y prynhawn yma ar gyhuddiadau yn ymwneud â gwerthu genethod ifanc bregus  am ryw.

Cafodd Anjum Dogar 30, ei frawd Aktar Dogar, 31, a Kamar Jamil 26 eu cyhuddo o gyfres o droseddau, gan gynnwys trais, cynllwynio i dreisio plentyn a threfnu plant i’w puteinio.

Mae’r tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan 30 Mawrth pryd y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Ayelsbury.

Bydd tri arall yn ymddangos gerbron yr ynadon yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Roedd y chwech ymhlith 13 o ddynion gafodd eu harestio yn Rhydychen dydd Iau diwethaf wrth i’r heddlu ymchwilio i honniadau bod 24 o enethod dan 16 oed wedi cael eu denu gan griw o ddynion er mwyn eu troi’n buteiniaid.