Lladdwyd un person ac mae hyd at 37 o bobl wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiad rhwng bws a lori ar draffordd yr M5 yng nghanolbarth Lloegr toc wedi 6 o’r gloch y bore yma.

Digwyddodd y ddamwain rhwng Bromsgrove a Halesowen i’r de orllewin o Brimingham nid nepell o wasanaethau Frankley.

Cafodd un person ei dorri’n rhydd o’r lori gan y gwasanaeth tân ac achub a dau eu torri’n rhydd o’r bws.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans mae ambell berson wedi ei anafu’n ddifrifol ond mae’r rhan fwyaf wedi gallu cerdded o’r fan ac mae nhw i gyd bellach ar eu ffordd i ysbytai cyfagos.

Yn ôl un llygad dyst roedd y lori wedi taro yn erbyn y tu ôl y bws.

Mae’r draffordd ar gau tua’r gogledd a’r de ac mae 5 ambiwlans ynghyd â’r heddlu a’r gwasanaethau tân ac achub yno.