George Osborne
Roedd y Gyllideb yn annheg am iddi wobrwyo’r cyfoethog yn fwy na neb arall, yn ôl pôl YouGov i bapur newydd The Sun gafodd ei gynnal ddoe.

 Yn ôl yr arolwg mae 56% o bobol yn credu y bydd polisïau trethu George Osborne yn golygu bod y rhai mwyaf cyfoethog yn talu llai o drethi.

 Roedd y Canghellor wedi dadlau y byddai’r rhai mwyaf cefnog yn ein cymdeithas yn talu mwy o dreth – er ei fod yn gostwng lefel ucha’r dreth ar gyflogau o 50 i 45% – oherwydd ei fod yn cyflwyno trethi uwch ar dai crand.

Dim ond 23% o’r rhai gafodd eu holi oedd o’r farn y byddai’r dyn cyffredin yn talu llai o drethi.

Un o bob tri yn unig oedd yn credu fod y Gyllideb yn deg.

Er i The Sun gefnu ar Lafur a chefnogi’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol Prydeinig diwethaf, mae’r papur wedi beirniadu Cyllideb ddydd Mercher yn hallt iawn.

 Mae pôl YouGov yn dangos bod 42% o bobol bellach yn cefnogi’r Blaid Lafur, 34% yn cefnogi’r Ceidwadwyr a 9% y tu cefn i’r Lib Dems.