Ed Miliband
Pobol ifanc heddiw fydd y genhedlaeth gyntaf mewn canrif i gael eu magu dan amodau gwaeth na’u rhieni, honnodd arweinydd yr wrthblaid heddiw.

Cyhuddodd Ed Miliband Llywodraeth San Steffan o “gicio’r ysgolion i ffwrdd” a “bradychu” pobol ifanc, gan gyfeirio’n benodol at godi ffioedd dysgu.

Rhyddhaodd y Blaid Lafur arolwg oedd yn dangos bod 71% o’r rheini a holwyd yn credu y byddai gan y genhedlaeth nesaf fywyd anoddach na’u rhieni.

Dim ond 9% oedd yn credu y byddai pethau’n haws i’r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Ed Miliband mai’r “addewid Brydeinig” oedd y byddai pob cenhedlaeth yn cael gwell cyfle i lwyddo na’r genhedlaeth ddaeth o’r blaen.

Ond roedd toriadau Llywodraeth San Steffan “yn dinistrio cyfleoedd plant a phobol ifanc ac yn tanseilio dyfodol Prydain,” meddai.

“Fy ofn i ydi bod y Llywodraeth yn cicio’r ysgolion i ffwrdd yn hytrach na cheisio darparu’r dyfodol orau posib ar gyfer ein plant.”

Ymateb

Ond dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog bod sylwadau arweinydd y Blaid Lafur yn “anghredadwy” am mai’r wrthblaid oedd yn gyfrifol am ddyled y wlad yn y lle cyntaf.

“Etifeddiaeth y Blaid Lafur i bobol ifanc Prydain ydi argyfwng economaidd anferth a dyled y bydd rhaid iddyn nhw ei ysgwyddo am flynyddoedd,” meddai.