Chris Bryant
Mae Aelodau Seneddol o Gymru wedi beirniadu un o weinidogion Llywodraeth San Steffan wedi iddo honni fod Prydain yn fwy o faint na Moroco.

Roedd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, wedi dweud y bydd Moroco yng ngogledd Affrica yn cael band eang cyflym iawn cyn Prydain am ei fod yn wlad lai.

Mae gan y wlad yng Ngogledd Affrica arwynebedd o 275,500 milltir sgwâr, tra bod gan Brydain arwynebedd o 94,000 milltir sgwâr.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd Ian Lucas, Aelod Seneddol Wrecsam: “Pam bod Moroco yn cael band eang cyflym iawn erbyn 2013 ond mae’n rhaid i Brydain ddisgwyl nes 2015?”

“Oherwydd bod Prydain yn wlad mwy,” atebodd Ed Vaizey.

Roedd chwerthin mawr yn y siambr, a diolchodd y Llefarydd John Bercow iddo am ei “ateb doniol ac addysgiadol iawn”.

Dywedodd AS y Rhondda, Chris Bryant, fod Moroco “ddwywaith maint y wlad yma. Wrth drafod ymestyn band eang, maint y wlad sy’n cyfri”.

Dychwelodd Ed Vaizey yn ddiweddarach er mwyn esbonio mai poblogaeth Prydain yn hytrach na’i arwynebedd oedd yn fwy o faint.

“Mae’n ffaith ddiddorol fod gan Morocco lai na hanner poblogaeth Prydain,” meddai.

“Beth sy’n bod ar Morocco yn cael band eang cyflym iawn? Pam ei fod yn gymaint o ryfeddod?

“Rydw i’n ei chael hi’n anodd deall pam bod pen arall y Tŷ yma yn dangos y fath anhoffter tuag at Moroco.”