Roedd nifer y balŵns ar draethau Prydain wedi codi y llynedd ac mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y gall dathliadau’r jiwbilî’r Frenhines  a’r Gemau Olympaidd waethygu’r sefyllfa.

Er i lefelau sbwriel ar draethau’r Deyrnas Unedig ddisgyn rhwng 2010 a 2011, roedd nifer y balŵns ar draethau wedi cynyddu gan 8% y llynedd yn ôl arolwg blynyddol y Gymdeithas Cadwraeth Forwrol. Mae balŵns yn gallu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn rhybuddio bod nifer y perchnogion cŵn sy’n rhoi baw eu cŵn mewn cwdyn plastig ac yn ei adael ar y traeth yn cynyddu.

Roedd newydd da wrth i nifer y sbwriel a gafodd ei ganfod yn ystod yr arolwg ym mis Medi ddisgyn gan 11%. Bu 4,500 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan ym mhenwythnos Beachwatch, gan lanhau 335 o draethau a chasglu dros ddwy fil o fagiau sbwriel.

Rhybuddiodd Lauren David o Gymdeithas Cadwraeth Forwrol rhag gor-ddefnyddio balŵns.

“Gyda bod cymaint o ddathliadau eleni, rhwng Jiwbilî Deiamwnt y Frenhines a’r Gemau Olympaidd, mae angen i bobol ddeall fod gadael fynd yn syniad gwael,” meddai.

“Mae tystiolaeth glir fod balŵns yn niweidio’r amgylchedd forwrol a ‘dyn ni ddim eisiau gweld 2012 yn gadael gwaddol o sbwriel.”