Mae’r pryderon am  ddyfodol Game wedi dwyshau heddiw ar ôl i gyfranddaliadau’r cwmni gael eu hatal ar y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain.

Mae’r cwmni gemau fideo wedi cyfaddef nad oes gan y busnes unrhyw werth.

Mae gan Game 1,300 o siopau yn fydeang ac yn cyflogi 10,000 o staff. Yn ôl adroddiadau mae’r cwmni ceisio codi £180 miliwn neu wynebu cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i sawl un o’u cyflenwyr wrthod rhoi cynnyrch newydd iddyn nhw.

Dywedodd y cwmni heddiw bod trafodaethau’n parhau gydag ariannwr posib.