Mae bachgen ysgol 16 oed wedi marw ar ôl cael ei daro’n wael tra’n chwarae rygbi.

Roedd y bachgen yn ddisgybl yn ysgol Haybridge High yn Hagley, Sir Gaerwrangon.

Dywed Heddlu Gorllewin Mercia bod y bachgen wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty’r Plant yn Birmingham bnawn dydd Mawrth, ar ôl cael ei daro’n wael yn ystod gem rygbi.