Mae ymdrech unfed awr ar ddeg  y Blaid Lafur i geisio atal cynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r GIG wedi methu yn Nhy’r Cyffredin, o fwyafrif o 82 o bleidleisiau.

Roedd 328 wedi pleidleisio yn erbyn, a 246 o blaid ymdrech llefarydd iechyd y Blaid Lafur Andy Burnham i geisio atal y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Andy Burnham wedi cyhuddo’r Llywodraeth o gamblo gyda dyfodol y GIG yn Lloegr. Mae hefyd yn dweud nad yw’r cyhoedd wedi cael gwybod am y peryglon posib yn sgil y diwygiadau.