Fabrice Muamba
Mae’r pêl-droediwr Fabrice Muamba yn dangos arwyddion ei fod yn gwella ac mae ei galon yn curo heb gymorth cyffuriau, yn ôl datganiad ar y cyd gan yr ysbyty sy’n ei drin a’i glwb Bolton Wanderers prynhawn ma.

Mae’r chwaraewr 23 oed yn parhau i gael gofal yn yr uned ofal dwys yn Ysbyty’r Frest yn Llundain ar ôl iddo gael ataliad y galon yn ystod gêm ddydd Sadwrn.

Heddiw fe ddechreuodd symud ei goesau a’i freichiau o’i wirfodd ar ôl treulio deuddydd yn yr ysbyty.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd ei glwb Bolton Wanderers,  Ymddiriedolaeth GIG Llundain ac ysbyty Barts: “Mae Fabrice Muamba yn parhau yn yr uned ofal dwys yn Ysbyty’r Frest yn Llundain, lle mae’n dangos arwyddion ei fod yn gwella.

“Mae ei galon yn curo heb gymorth cyffuriau ac mae’n symud ei freichiau a’i goesau.

“Ond mae’n parhau’n ddifrifol wael ac fe fydd staff yr ysbyty yn parhau i’w fonitro’n ofalus.”

Roedd Muamba wedi cael ei daro’n wael ar y cae chwarae yn ystod gem Cwpan FA yn erbyn Tottenham Hotspur yn White Hart Lane toc wedi 6pm nos Sadwrn, o flaen cannoedd o gefnogwyr yn y stadiwm.

Roedd parafeddygon wedi ceisio cael ei galon i guro eto ar ei phen ei hun ond wedi methu nes iddo gyrraedd yr ysbyty.

Bu rheolwr y clwb Owen Coyle a’r cadeirydd Phil Gartside, yn ymweld â Muamba yn yr ysbyty bore ma.

Mae Bolton wedi gohirio eu gem nesaf yn erbyn Aston Villa oedd i fod ei gael ei gynnal nos yfory.