Fabrice Muamba
Mae’r pêl-droediwr Fabrice Muamba mewn cyflwr sefydlog ond difrifol ar ôl iddo gael trawiad ar y galon yn ystod gêm ddydd Sadwrn.

Roedd datganiad ar y cyd rhwng ei glwb pêl-droed Bolton Wanderers ac Ymddiriedolaeth y GIG Llundain yn dweud: “Mae cyflwr Fabrice Muamba yn sefydlog, ond mae’n parhau yn ddifrifol wael yn yr uned ofal dwy yn Ysbyty’r Frest yn Llundain.

“Mae’r teulu yn ddiolchgar i’r cyfryngau am barchu ei breifatrwydd ar yr adeg hon.”

Roedd dyweddi Muamba, 23 oed, sy’n fam i’w fab Joshua, wedi annog cefnogwyr i weddïo amdano.

Bu rheolwr y clwb Owen Coyle a’r cadeirydd Phil Gartside, yn ymweld â Muamba yn yr ysbyty bore ma.

Roedd Muamba wedi cael ei daro’n wael ar y cae chwarae yn ystod gem Cwpan FA yn erbyn Tottenham Hotspur yn White Hart Lane toc wedi 6pm nos Sadwrn, o flaen cannoedd o gefnogwyr yn y stadiwm a miliynau o bobl yn gwylio’r gêm ar y teledu.

Roedd parafeddygon wedi ceisio cael ei galon i guro eto ar ei phen ei hun ond wedi methu nes iddo gyrraedd yr ysbyty. Mae’n parhau mewn coma yn yr uned ofal dwys.

Mae Bolton wedi gohirio eu gêm nesaf yn erbyn Aston Villa oedd i fod ei gael ei chynnal nos yfory.