Mae prisiau tai wedi gweld y cynnydd mwyaf sylweddol mewn chwe blynedd, gan hybu gobeithion y bydd y farchnad dai yn fwy sefydlog yn 2012 o’i gymharu â llynedd.
Mae’r pris ar gyfartaledd am dŷ wedi codi i £236,939 ym mis Mawrth, cynnydd o 4.9% dros y tri mis cyntaf o’r flwyddyn, a’r cynnydd mwyaf yn y chwarter cyntaf ers 2004, yn ôl arolwg gan Rightmove.
Mae diddordeb ymhlith prynwyr o dramor wedi hybu’r farchnad dai yn Llundain, tra bod y 10 rhanbarth yng Nghymru a Lloegr wedi gweld cynnydd mewn prisiau ym mis Mawrth. Serch hynny mae Cymru, Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr wedi gweld gostyngiad mewn prisiau yn flynyddol.