Mae Gweinidog Iechyd Cyhoeddus yr Alban wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gefnogi gwaharddiad ar draws Prydain gyfan o hysbysebion teledu sy’n hyrwyddo bwydydd uchel mewn saim, siwgr a halen cyn 9.00 o’r gloch yr hwyr.

Mae Michael Matheson wedi sgwennu at Weinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan, Andrew Lansley, i ofyn a wnaiff e gefnogi’r gwaharddiad.

Mae galwad Mr Matheson yn dilyn ymchwil diweddar sy’n dangos fod plant yn parhau i weld hysbysebion am fwydydd sothach er bod rheolau mwy llym yn bodoli na fu.

Mae hysbysebion yn hyrwyddo’r bwydydd hyn yn ystod rhaglenni plant eisoes wedi cael eu gwahardd gan Ofcom.

Ond mae ymchwil gan Brifysgol Newcastle yn dangos fod 7% o’r hysbysebion sy’n cael eu gweld gan blant yn hyrwyddo bwydydd sothach.

Yn ogystal â rhaglenni plant, mae pobl ifanc yn gwylio rhaglenni eraill fel sioeau talent ac operâu sebon, meddai Mr Matheson.

“Dyna pam yr ydym yn awyddus i gyflwyno gwaharddiad cyn naw o’r gloch yr hwyr, ac rydym yn edrych ar Lywodraeth Prydain i gefnogi cam o’r math hwn a fyddai hefyd yn annog ein partneriaid yn y diwydiant bwyd i aildrefnu eu cynnyrch o ran lleihau’r halen, saim, a siwgr maen nhw’n gynnwys” meddai.

Mi fyddai cam o’r math hwn yn gofyn am gydweithrediad rhwng llywodraethau Prydain a’r Alban, ychwanegodd.

Ond mae llefarydd y Blaid Lafur ar iechyd yn yr Alban, Jackie Baillie, wedi dweud bod galwad Mr Matheson yn ffordd o dynnu sylw oddi ar “gwir broblemau’r gwasanaeth iechyd.”