Dim ond trydydd oedd Lewis Hamilton
Jenson Button sydd wedi ennill Grand Prix Awstralia, y ras gyntaf yn y tymor newydd rasio ceir Fformiwla 1.

Roedd Jenson Button yn dreifio un o geir tîm McLaren.

Sebastien Vettel o Red Bull oedd yn ail, gyda Lewis Hamilton, unwaith eto o McLaren, yn drydydd.

Dechreuodd Hamilton ar y blaen ond mi gafodd ei basio ar y gornel gyntaf gan Button.

Roedd Button wrth ei fodd gyda’i berfformiad, ac fe gafodd ei ganmol yn fawr gan Vettel, y pencampwr presennol. “Roedd Jenson yn ddiguro,” meddai.