George Osborne
Mae disgwyl i Ganghellor Llywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd deddfau masnachu ar y Sul yn cael eu hatal yn ystod y gemau Olympaidd.

Yn ei Gyllideb yr wythnos nesaf, mae disgwyl y bydd George Osborne yn dweud y bydd siopau mawr yng Nghymru a Lloegr yn cael masnachu am fwy na chwe awr ar y Sul.

Bydd hyn yn golygu deddfwriaeth brys ac mae swyddogion yn gobeithio y bydd modd pasio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol erbyn y Pasg.

Y syniad yw y byddai hyn yn rhoi hwb i siopa, ond mae’n debygol y bydd arweinwyr eglwysig yn gwrthwynebu’r cynllun.

Gan wahardd y deddfau dros dro, mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio y bydd y miloedd o ymwelwyr a fydd yn Llundain dros y gemau Olympaidd yn gallu manteisio ar oriau siopau hwyr yn y West End, gan felly rhoi hwb i fusnesau manwerthu.

Y gobaith yw hefyd y bydd pobl yng Nghymru a Lloegr yn ymweld ag archfarchnadoedd, canolfannau garddio a siopau DIY.

Ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr mae siopau mawr yn cael masnachu am chwe awr ar y Sul rhwng 10 y bore a 6.00 yr hwyr. Yn yr Alban does dim deddf masnachu ar y Sul, ac mae’r siopau eu hunain yn penderfynu pa bryd i agor. Yng Ngogledd Iwerddon mae siopau yn cael agor rhwng 1.00 y pnawn a 6.00 yr hwyr ar ddydd Sul.