Mae’r peldroediwr Fabrice Muamba yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol bore ma ar ôl iddo gael ei gymryd yn wael yn ystod gêm Bolton yn erbyn Spurs ddoe yn rownd gogynderfynol cystadleuaeth Cwpan yr FA.

Mi wnaeth y chwaraewr 23 oed gwympo i’r llawr toc ar ôl deugain munud o’r gêm ac fe dderbyniodd driniaeth ar y cae cyn cael ei ruthro i’r ysbyty. Penderfynwyd rhoi’r gorau i’r gêm.

Mae bellach yn derbyn triniaeth ddwys yn y ganolfan trawiad ar y galon yn Ysbyty Frest Llundain yn Bethnal Green.

Aeth rheolwr Bolton, Owen Coyle, gydag e i’r ysbyty, ac mae wedi cadarnhau fod Fabrice yn ddifrifol wael. Galwodd ar bawb i weddïo drosto.

Mae Muamba yn dod yn wreiddiol o Zaire, sy’n cael ei adnabod erbyn hyn  fel Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac fe ymunodd â Bolton yn 2008. Cyn hynny, bu’n chwarae i Arsenal a Birmingham. Mae wedi chwarae i dimau o dan 16 ac o dan 21 Lloegr.

Anfonodd Brif Weithredwr yr Uwch Gynghrair, Richard Scudamore, ei ddymuniadau gorau at Muamba a’i deulu, a dalodd deyrnged hefyd i’r staff meddygol wnaeth roi driniaeth iddo yn White Heart Lane.

“Mae meddyliau’r Uwch Gynghrair, ei chlybiau a’i chwaraewyr gyda Fabrice Muamba, ei deulu a Bolton Wanderers,” meddai