Ed Miliband
Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos honedig o dorri i mewn yn y Senedd yn San Steffan.

Credir mai swyddfeydd sy’n cael eu defnyddio gan Arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yw canolbwynt eu hymchwiliad.

Derbyniodd Scotland Yard adroddiadau ychydig cyn 7.00 o’r gloch nos Wener ynglŷn â’r hyn oedd yn edrych fel achos o dorri i mewn yn y swyddfeydd ym Mhalas San Steffan.

Mae’n debyg fod aelod o staff Ed Miliband wedi darganfod fod drws wedi cael ei agor trwy nerth bôn braich ond nid yw’n glir os oedd unrhyw beth ar goll o’r ystafell.

Doedd Mr Miliband ddim yn bresennol yn yr adeilad ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na fyddai’n briodol i wneud sylw ar hyn o bryd gan fod eu hymchwiliad i’r mater yn parhau.