David Rathband a'i wraig
Daeth cannoedd o bobl ynghyd heddiw yn angladd Pc David Rathband a saethwyd gan y llofrudd Raoul Moat yn 2010. Roedd PC Rathband yn ddall o ganlyniad i’r ymosodiad.

Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Stafford ac roedd ei deulu yn unfrydol yn eu dymuniad y dylai’r angladd fod yn ddathliad o’i fywyd.

Dewiswyd un gân ar gyfer yr angladd – Always Look on the Bright Side of Life gan Monty Python – “oherwydd ei fod yn crynhoi agwedd optimistaidd David ei hun a’i hiwmor diatal,” meddai Carly Fee wnaeth arwain y gwasanaeth.

Bu farw David Rathband yn ei gartref yn Blyth, Northumberland ar Chwefror 29. Roedd wedi crogi ei hun.