Mae rhai ymddiriedolaethau ysbytai yn Lloegr wedi cynyddu prisiau parcio dros 100% yn Lloegr.
Yno maen nhw’n gwneud miloedd y flwyddyn drwy godi am barcio, rhywbeth sydd am ddim i’r mwyafrif llethol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Roedd gwybodaeth gan ymddiriedolaethau ysbytai ac iechyd meddwl yn dangos fod 28% o ysbytai wedi codi eu prisiau.
Roedd Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd yn Swydd Lincoln wedi codi eu prisiau 112%, o 67 ceiniog yr awr i £1.42.