Roedd un o brif swyddogion Heddlu Glannau Mersi wedi beio “cefnogwyr meddw Lerpwl” am drychineb Hillsborough yn 1989, yn ôl dogfennau cyfrinachol y Llywodraeth sydd wedi dod i law’r BBC.

Mae’r dogfennau’n dangos bod Heddlu Glannau Mersi wedi dweud wrth y cyn Prif Weinidog Margaret Thatcher  mai nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu’n “brif ffactor” yn yr hyn ddigwyddodd yn y stadiwm.

Cafodd 96 o gefnogwyr pêl-droed eu lladd yn y stadiwm orlawn yn Sheffield lle’r oedd Lerpwl ar fin chwarae yng ngêm gynderfynol Cwpan FA ym mis Ebrill 1989.

Cafodd cefnogwyr eu cynddeiriogi ar ôl i heddlu De Swydd Efrog, fu’n gyfrifol am blismona’r gêm,  roi’r bai ar gefnogwyr Lerpwl am yr hyn ddigwyddodd gan eu cyhuddo o fod yn feddw, cyrraedd yn hwyr a heb docynnau i’r gêm.

Ond mae’r dogfennau, a ddaeth i law The World at One ar BBC Radio 4, yn awgrymu bod Heddlu Glannau Mersi hefyd wedi bod o’r farn mai cefnogwyr Lerpwl oedd ar fai.

Yn ôl nodyn gan brif gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Syr Kenneth Oxford, un o brif ffactorau’r trychineb oedd y ffaith bod nifer fawr o gefnogwyr Lerpwl wedi cyrraedd y stadiwm heb docynnau. Dywedodd bod rhai wedi colli golwg o hyn wrth geisio rhoi’r bai ar yr heddlu a’r awdurdodau pêl-droed.