Slogan yr ymgyrch
Mae llai o wragedd yn byw trwy ganser yr ofari yn y Deyrnas Unedig nag yng ngweddill Ewrop, meddai elusen.

Bob dwy awr, mae gwraig yn marw o’r afiechyd yng ngwledydd Prydain, yn ôl Ovarian Cancer Action, ac un o’r rhesymau yw bod merched yn ei gadael hi’n rhy hwyr cyn mynd at feddyg.

Rhan o’r ateb, medden nhw, yw bod merched yn siarad gyda’i gilydd ac maen nhw’n dechrau ymgyrch i annog hynny.

Siarad gyda mamau

Ddydd Sul y Mamau mae Ovarian Cancer Action yn gofyn i ferched wneud yn siŵr eu bod nhw’n dweud wrth eu mamau am symptomau’r canser.

Yn ôl ymchwil yr elusen byddai 60% o ferched yn gorfodi eu mam i weld meddyg pe baen nhw’n bryderus am ei hiechyd.

Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod merched yn dda am gadw mewn cysylltiad â’u mamau  – mae chwarter yn cysylltu bob dydd, a naw o bob deg yn cysylltu o leia’ unwaith bob tri mis.

Adnabod y symptomau

Rhan o’r ymgyrch hefyd yw dysgu merched i adnabod y symptomau, i ddysgu am hanes meddygol y teulu a thrafod y pwnc gyda’u mamau a’u merched.

Un symptom yw mynd i’r tŷ bach yn aml – er bod tua 50% o ferched yn ystyried bod hynny’n arwydd o heneiddio, gall hefyd fod yn arwydd o ganser yr ofari.

Mae mis Mawrth yn fis gweithredu ym maes y canser.