Iain Duncan Smith
Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth yr Alban o agwedd ‘dewis a dethol’ at annibyniaeth.

Yn ôl Iain Duncan Smith, y Gweinidog Gwaith a Phensiynau a chyn arweinydd y Blaid Geidwadol, roedd Llywodraeth yr SNP eisiau cymryd grym mewn rhai meysydd ond am adael meysydd lle mae angen cymorth yn Llundain.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Scotsman, bod pobol yr Alban ar eu hennill o fod yn rhan o’r undeb Prydeinig, gan gynnwys bod yn rhan o’r drefn fudd-daliadau a lles.

Addysg yng Nghymru

Fe gafodd ‘IDS’ ei eni yn yr Alban, cyn byw yn Lloegr am y rhan fwya’ o’i fywyd a chael peth o’i addysg yn ysgol forwrol HMS Conway yn Ynys Môn ac mae’n galw ei hun yn “gynnyrch yr Undeb”.

Mae ei ddatganiad yn rhan o ymgyrch gynyddol gan Lywodraeth Prydain i geisio tanseilio ymgyrch annibyniaeth yr SNP.

Ond, er bod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi awgrymu y gallai’r Alban gael rhagor o rymoedd, roedd Iain Duncan Smith yn erbyn y syniad o ‘devo-max’ hefyd.