Tony Nicklinson
Mae dyn sydd wedi ei barlysu ac sydd am i feddyg ddod a’i fywyd i ben wedi cael yr hawl i fynd â’i achos i’r Uchel Lys.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw gan y barnwr Mr Ustus Charles.

Mae Tony Nicklinson, 57 oed, sy’n briod  gyda dwy ferch, ac yn byw yn Melksham, Wiltshire, yn dweud bod ei fywyd yn “ddiflas ac eilradd” ers iddo gael strôc yn 2005.

Mae angen meddyg i’w helpu i ddod â’i fywyd i ben ac mae eisiau’r hawl i wneud hynny’n “gyfreithlon” ac eisiau sicrhau na fydd y meddyg yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Heddiw fe gafodd yr hawl i fynd â’i achos i’r Uchel Lys.

Cyn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd gwraig Tony Nicklinson, Jane, sy’n gyn nyrs, bod na gefnogaeth mawr i’w gais.

“Yr unig ffordd i leddfu dioddefaint Tony yw dod â’i fywyd i ben. Does dim byd arall gellir ei wneud i’w helpu,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Dyma beth mae e ei eisiau ac rydyn ni i gyd y tu ôl iddo. Petai chi’n gwybod y math o berson oedd o cyn hyn, yna mae bywyd fel hyn yn annioddefol iddo.

“Mae pobl yn meddwl ei fod eisiau marw’n syth. Dyw e ddim – mae e jyst eisiau gwybod, pan ddaw’r amser, bod na ffordd allan.”

Dywedodd y barnwr ei fod wedi ystyried mai dim ond y Senedd allai newid y gyfraith yn y modd roedd Tony Nicklinson am iddo wneud, ond dywedodd bod y dadleuon wedi gwneud iddo ail-ystyried.