David Cameron
Mae David Cameron wedi addo hybu cynllun sy’n rhoi’r hawl i denantiaid tai cyngor brynu eu cartrefi eu hunain, drwy gynnig gostyngiad o hyd at £75,000.

Fe fydd annog “teuluoedd cryfach a chymunedau mwy sefydlog”, yn ôl y Prif Weinidog.

Fe fydd tenantiaid sydd wedi bod yn eu cartrefi ers pum mlynedd yn cael gostyngiad o hyd at 35%, gyda 1% am bob blwyddyn ychwanegol, gan olygu gostyngiad o hyd at £75,000.