Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg
Mae aelodau cyffredin y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthod cefnogi cynlluniau dadleuol y Llywodraeth i ddiwygio’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Mewn ergyd i arweinydd y blaid, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, cafodd cynnig o blaid y cynlluniau iechyd ei chwalu gan gynrychiolwyr y blaid yn eu cynhadledd wanwyn yn Gateshead.

Pleidleisiodd y cynrychiolwyr o 314 i 270 dros ddileu cymal allweddol yn galw ar arglwyddi i gefnogi camau terfynol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Er bod y bleidlais yn dangos cryfder y gwrthwynebiad o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol i’r mesur, nid yw’n gorfodi’r blaid seneddol i bleidleisio yn ei erbyn.