Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi galw am sicrhau bod miliwnyddion yn “talu eu cyfran deg” o dreth ar eu hincwm.

Dywed Nick Clegg y byddai o blaid gosod isafswm o gyfradd treth ar y cyfoethog.

Daw ei alwad ar ôl i’r ffefryn yn y ras am enwebiad arlywyddol y Gweriniaethwyr yn America, Mitt Romney, gyfaddef nad yw ond yn talu 13.9% o dreth ar ei enillion.

“Pan glywais nad yw Mitt Romney ond yn talu 13% o dreth er ei fod yn filiwnydd sawl gwaith drosodd, meddyliais na allai hyn fyth ddigwydd ym Mhrydain,” meddai Nick Clegg.

“Ond cefais sioc fawr o weld y graddau y mae’n disgwydd yma hefyd, gyda miliwnyddion yn benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl o osgoi trethi.”

Dywedodd ei fod yn benderfynol o newid y sefyllfa:

“Dw i’n meddwl y dylai pawb, hyd yn oed y miliwnyddion gyda’u holl gyfreithwyr a’u cyfrifwyr ffansi dalu eu cyfran deg i gymdeithas,” meddai.

“Dw i’n gwybod y byddai’n anodd iawn yn dechnegol, ond dw i’n meddwl o ddifrif bod angen sicrhau bod pawb, waeth pa mor gyfoethog ydyn nhw, yn talu isafswm cyfradd o dreth.”

Cynhadledd Wanwyn

Fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog ei sylwadau wrth i’w blaid yn eu cynhadledd wanwyn yn Gateshead alw am weithredu pellach a chyflymach ar godi’r trothwy treth incwm i dros £10,000.

I dalu am hyn, maen nhw’n cynnig amrywiaeth o fesurau, gan gynnwys ‘treth plastai’, a gweithredu llymach yn erbyn pobl sy’n osgoi trethi.

Yn y cyfamser, mae’r cynrychiolwyr wedi pleidleisio yn erbyn trafod cynnig yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i’r newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Yn lle hynny, fe fydd cynnig arall ar y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei drafod yfory, cynnig sy’n galw ar y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi’r newidiadau.