Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban ddisgrifio annibyniaeth fel “neges o obaith” wrth annerch cannoedd o gefnogwyr yng nghynhadledd wanwyn yr SNP yn Glasgow heddiw.

Lai na blwyddyn ers i’r SNP ennill mwyafrif llwyr yn senedd yr Alban, roedd sylw’r cynadleddwyr ar yr etholiadau lleol ar 3 Mai ac ar lansio’r ymgyrch yn fuan wedyn dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar annibyniaeth – sy’n debyg o gael ei gynnal yn hydref 2014.

Neges Alex Salmond heddiw oedd fod “hunan-lywodraeth gydag annibyniaeth” yn well i’r Alban na chael ei “llywodraethu gan Dorïaid o San Steffan”.

“Gyda phobl yr Alban mewn grym, yn siarad â’n llais ein hunain, yn adlewyrchu’n gwerthoedd ein hunain – fe fyddwn ni’n gwneud ein gwlad yn well,” meddai.

“Dyna’n neges ni o obaith.”

‘Gwir annibyniaeth yn well fyth’

“Mae ychydig o annibyniaeth wedi bod yn dda i’r Alban,” meddai. “Ond fe fydd gwir annibyniaeth yn well fyth.

“Gyda mesur o annibyniaeth ar iechyd, ar addysg, ac ar gyfraith a threfn rydyn ni wedi gwneud yr Alban yn well lle.

“Meddyliwch beth allen ni ei wneud  gyda’r Alban yn cael rheolaeth o’r economi.”

Hon yw’r gynhadledd wanwyn fwyaf yn hanes yr SNP, ac mae’n  digwydd ar adeg o dwf yn ei haelodaeth, gyda 2,400 o aelodau newydd ers dechrau’r flwyddyn – cynnydd o 12%.

Fe wnaeth Alex Salmond defnyddio’r gynhadledd hefyd i gyhoeddi cynllun newydd i helpu pobl ifanc ddi-waith. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae dros 100,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed yn ddi-waith yn yr Alban, a bydd pecyn £5 miliwn yn creu 2,500 yn rhagor o brentisiaethau yn y wlad.