Mae Prydeinwyr yn fwy ofnus ynglŷn â mewnfudo na gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop a Gogledd America.

Yn ôl arolwg Transatlantic Trends roedd bron i un ym mhob pedwar (23%) yn credu mai mewnfudo yw’r her fwyaf sy’n wynebu Gwledydd Prydain.

Dim ond 9% oedd yn credu hynny yn yr Unol Daleithiau, 5% yng Nghanada, 8% yn Ffrainc, 9% yn yr Almaen, 10% yn yr Eidal, 4% yn yr Iseldiroedd, a 3% yn Sbaen.

Roedd 59% o’r Prydeinwyr a holwyd yn credu bod “gormod” o bobol o dramor yn byw yn y wlad.

Yn ogystal â hynny roedd 70% yn credu nad oedd Llywodraeth San Steffan yn gwneud digon i reoli mewnfudo.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio lleihau mewnfudo o gannoedd o filoedd i ddegau o filoedd cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

‘Baich’

Roedd 47% yn credu bod mewnfudwyr cyfreithlon yn faich ar wasanaethau cymdeithasol gan gynnwys ysgolion ac ysbytai, a 33% yn credu bod mewnfudwyr cyfreithlon yn arwain at ragor o drosedd.

Roedd 22% yn credu mai Prydeinwyr yn unig ddylai gael defnyddio ysgolion y wlad, ac roedd 25% yn credu mai Prydeinwyr yn unig ddylai gael gofal iechyd am ddim.

Serch hynny, roedd 77% yn cytuno bod mewnfudwyr cyfreithlon yn gweithio’n galed, a 43% yn credu eu bod nhw’n gwneud eu gorau i integreiddio i’r gymdeithas.