Alex Salmond
Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwrthod galwad am gynnal dau refferendwm cyn i’r wlad fynd yn annibynnol.

Yn ôl papur y Scotsman, roedd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Alex Salmond, wedi mynnu nad oedd yr un wlad arall wedi gorfod cynnal dwy bleidlais cyn cael annibyniaeth.

Roedd yn ymateb i dystiolaeth gan bedwar arbenigwr gwleidyddol i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Albanaidd yn San Steffan.

Roedd y rheiny wedi mynnu y byddai angen dau refferendwm – un yn bleidlais ar egwyddor annibyniaeth a’r llall ar y manylion ar ôl trafodaethau rhwng Caeredin a Llundain.

Roedd rhai o’r pedwar – Vernon Bogdanor o King’s College, Llundain; Iain McLean o Goleg Nuffield, Rhydychen; John Curtice o Brifysgol Strathclyde, a Peter Kellner, Cadeirydd y corff arolygon, YouGov – wedi beirniadu Alex Salmond am newid ei safbwynt yn gyson.

Angen ystyried yr effaith ar amddiffyn

Mae un arall o bwyllgorau San Steffan wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am beidio ag ystyried effaith annibyniaeth i’r Alban ar bolisi ac adnoddau amddiffyn.

Mewn adroddiad sy’n beirniadu’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol am fod â gorwelion rhy gul, mae’r Cyd Bwyllgor ar y Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol yn dweud eu bod wedi “synnu” at fethiant y Cyngor i ystyried oblygiadau rhannu’r Deyrnas Unedig.

Roedd y cyn Gynghorydd Diogelwch, Syr Peter Ricketts, wedi dweud nad oedd “bwriad” i ofyn i’r Cyngor ystyried y pwnc ac roedd y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet, Oliver Letwin, wedi dweud nad oedden nhw’n “disgwyl anawsterau” pe bai’r Alban yn torri’n rhydd.

Ond, yn ôl y Cyd bwyllgor fe fyddai llawer o oblygiadau, gan gynnwys dadleuon tros rannu adnoddau a dyfodol arfau niwclear y Deyrnas Unedig – mae canolfan y llongau tanfor niwclear yn yr Alban ar hyn o bryd.