Un o unedau Bron Brawf Cymru
Mae achosion o ganser y fron yn cynyddu ymhlith merched gwledydd Prydain, meddai elusen.

Erbyn hyn mae’r peryg o ferch yn cael y clefyd yn ystod ei hoes wedi codi o un mewn naw i un mewn wyth yn ystod y deng mlynedd diwetha’.

Fe gyhoeddodd yr elusen Ymchwil Canser bod mwy na 47,000 o ferched yn cael y clefyd bob blwyddyn erbyn hyn, cynnydd o 3.5% rhwng 1999 a 2008.

Ond mae’r gobaith o fyw trwy’r clefyd wedi codi hefyd gyda mwy na dwy o bob tair claf yn byw am fwy nag 20 mlynedd ar ôl cael eu diagnosis. Mae tri chwarter yn byw am fwy na deg.

Pam?

A hithau’n Ddiwrnod Canser y Byd, mae’r elusen yn rhoi’r bai’n rhannol ar gynnydd mewn pwysau a mwy o ddefnydd o alcohol ond mae rhai merched hefyd yn etifeddu’r clefyd trwy eu genynnau.

“All merched ddim newid eu genynnau ond fe all newidiadau bach yn eu harferion bob dydd fod o gymorth i leihau’r peryg o ganser,” meddai Sarah Hiom, Cyfarwyddwr Gwybodaeth yr elusen.

Mae’r mudiad hefyd yn dweud bod angen gofal wrth dderbyn Triniaeth Hormonau (HRT) tros y tymor hir.