Mae bron i £950,000 o daliadau bonws wedi cael eu rhoi i staff Seneddol eleni.

Cafodd taliadau gwerth £844, 417 eu rhoi i staff Tŷ’r Cyffredin tra bod £100,115 wedi ei roi i staff Tŷ’r Arglwyddi.

Roedd rhai o’r brif staff, sy’n gwisgo gwisg seremonїol, wedi cael mwy na £6,000 yr un ond roedd y taliadau ar gyfartaledd tua £473 yr un.

Daw’r taliadau wrth i’r Senedd geisio torri eu costau.