Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd Anfon at ffrind
Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi beirniadu’r y mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno newidiadau mewn dulliau plismona.

Mae’r newidiadau i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (Codau Ymarfer) 1984 wedi cael eu gwthio drwy’r Senedd yn ddiweddar heb ymgynghori cyhoeddus llawn ac agored.

Ar hyn o bryd mae’r heddlu’n casglu gwybodaeth am faterion fel ethnigrwydd pan fydd pobl yn cael eu stopio. Ond mae’r newidiadau i’r rheolau’n cynnwys llacio cofnodion yr heddlu am nodi ethnigrwydd pobl.

Mae Elfyn Llwyd yn pryderu y gallai hyn ei wneud yn anodd iawn dadlau a oes rhagfarn neu beidio yn y modd mae’r heddlu yn ymddwyn.

Pryder’

“Dw i’n bryderus iawn fod newidiadau sylweddol i ddulliau plismona’n cael eu cyflwyno trwy’r drws cefn heb ymgynghori cyhoeddus llawn ac agored,” meddai Elfyn Llwyd.

“Mae Pwyllgor Teilyngdod Tŷ’r Arglwyddi a grwpiau hawliau sifil fel Liberty wedi beirniadu llywodraeth San Steffan am gyflwyno newidiadau yn sydyn a heb gael trafodaeth gyhoeddus iawn ar y pwnc.

“Er fy mod yn credu fod dulliau gwell o dreulio amser ac adnoddau’r heddlu ar y dasg bwysicaf, sef ymladd troseddau, rhaid iddyn nhw hefyd fod yn atebol am eu gweithredoedd pan fyddan nhw’n cerdded y strydoedd.

‘Creu bwlch’

“Mae diffyg gwybodaeth yn chwarae i ddwylo’r rhai sydd am godi bwganod, ac fe all greu bwlch rhwng yr heddlu a chymunedau.

“Felly mi ddylen nhw barhau i gasglu gwybodaeth am ethnigrwydd pan fydd pobl yn cael eu stopio.

“Mae arna’i ofn fod y newidiadau hyn yn mynd yn erbyn canfyddiadau gwahanol ymchwiliadau dros y blynyddoedd, fel adroddiad Macpherson, sydd wedi nodi pwysigrwydd gwybodaeth o’r fath o ran cysylltiadau